Y mae gan Eglwys Ebeneser hanes eithriadol o ddifyr a diddorol yn ymestyn yn ôl i'w chychwyniad ym 1826. Gobeithiwn yn y tudalennau hyn rannu gyda chi beth o'r hanes.
Llun Lewis Powell un o'r Tadau Annibynnol sydd ar y chwith, gweinidog cyntaf Ebeneser a chymeriad lliwgar. Mewn tŷ tafarn o'r enw'r Old Coach House ar Heol y Santes Fair y cychwynnodd yr achos ym 1826.
Y Llun arall ar y chwith yw capel presennol eglwys Ebeneser ar Heol Siarl. Adeiladwyd ym 1855 gan yr Annibynwyr Saesneg. Pam fod eglwys Gymraeg yn addoli yno felly? Darllenwych yr hanes i weld.
Ar y gwaelod y mae llun o'r Ebeneser gwreiddiol a adeiladwyd ym 1828. Mae'n rhyfedd meddwl erbyn hyn fod y Parch. Lewis Powell yn cwyno fod ei leoliad yn llawer rhy wledig. 'Roedd y capel dafliad Carreg o Heol y Frenhines mewn man gyda'r enw addas Paradise Place. Dymchwelwyd y capel ym 1977 er mwyn adeiladu canolfan Dewi Sant. Y mae plac wedi ei gosod ar golofn wrth ddrws Marks & Spencers sydd yn mynd i mewn i'r ganolfan siopa. Dyma pryd y symudodd eglwys Ebeneser i addoli yng Nghapel yr Annibynwyr Saesneg, Heol Siarl, gan fod yr achos oedd yno wedi uno gyda'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn Windsor Place.